• White Facebook Icon
  • White Twitter Icon
  • White YouTube Icon

© Powys War Memorials 2016

Enw’r rhyfel hwn i lawer oedd y Rhyfel Mawr, ond yr unig agweddau arno oedd yn fawr oedd yr ehangder, y nifer oedd yn rhan ohono, a’r canlyniadau erchyll. Roedd bron 70 miliwn o filwyr, morwyr ac awyrenwyr wedi cymryd rhan ynddo; a daeth 10 miliwn ohonynt byth adref. Ni welwyd unrhyw beth tebyg i hynny o’r blaen.

Chwaraeodd yr Ymerodraeth Brydeinig ran fawr yn y rhyfel, a chollwyd bron i filiwn o bobl, gan gynnwys aelodau’r lluoedd arfog a sifiliaid. Cafodd dros 1.5 miliwn eu hanafu.

Cafodd 272,924 o ddynion a menywod eu recriwtio yng Nghymru a rhestrwyd rhyw 35,000 yn ‘farw’ neu ‘collwyd mewn brwydr’. Ym Mhowys, yn debyg i bobman arall, mae’r rhai a gollwyd yn cael eu cofio ar gofebion mewn trefi a phentrefi.

 

Sut Cychwynnodd Y Rhyfel?

Ym 1914 roedd map ‘gwleidyddol’ Ewrop yn wahanol i’r hyn sy’n bodoli heddiw.

Roedd gan ymerodraethau mawr yr Almaen, yr Awstria a’r Hwngari a Rwsia uchelgais tiriogaethol, ond gwanháu oedd dylanwad Ymerodraeth Otoman Twrci yn Ewrop.

Roedd Prydain a Ffrainc yn canolbwyntio ar eu hymerodraethau mawr tramor, ond roeddynt hefyd yn ymwybodol iawn o’r cystadlu am rym ymhlith eu cynghreiriaid a gelynion blaenorol yn Ewrop. Roedd yr Eidal a Sbaen yr un mor wyliadwrus wrth i’r Almaen wario symiau sylweddol ar ras arfau heb ei ail wrth gynyddu maint ei fyddin - ac yn debyg i Brydain - y llynges.

Roedd Ewrop yn lle peryglus oedd ar fin ffrwydro. Ac ar ddiwedd Mehefin 1914, cychwynnodd y rhyfel.

Yn Sarajevo, oedd yn rhan o Ymerodraeth yr Awstria ar y pryd, cafodd yr Archddug Franz Ferdinand, oedd yn etifedd yr ymerodraeth ei lofruddio gan genedlaetholwr o wlad Bosnia. Mis yn ddiweddarach, er gwaethaf trafodaethau brys ymhlith prif bwerau Ewrop, roedd yr Awstria’n paratoi i feddiannu Serbia, oedd yn nhyb y wlad yn gysylltiedig â’r llofruddiaeth. O ganlyniad, cychwynnodd Rwsia ymfyddino ei filwyr yn erbyn yr Awstria, wrth gefnogi Serbia. Wedyn gan ei bod yn ofni cynlluniau Rwsia, cyhoeddodd yr Almaen ei bod yn mynd i ryfel yn erbyn Rwsia, a mwy na lai ar unwaith wedyn, yn erbyn Ffrainc hefyd. Cychwynnodd y byddinoedd amrywiol ymdeithio.

Ar 4ydd Awst, wrth gefnogi Ffrainc (yr ‘hen elyn’) a Rwsia, cyhoeddodd Prydain ei bod yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen, ac mae’r byd wedi newid am byth ers hynny.

Ni fu’r ymadrodd ‘fe aeth yn draed moch’ erioed yn fwy cywir, wrth i fwy a mwy o wledydd cael eu cynnwys dros gyfnod y rhyfel. Erbyn y diwedd, roedd yr holl wledydd yn gymysgedd cymhleth iawn.

Which countries were involved in the war? Pa Wledydd Fu'n Cymryd Rhan Yn Y Rhyfel?

Lluoedd y Cynghreiriaid (Yr Entente)

Andorra

Gwlad Belg

Brasil

Yr ymerodraeth Brydeinig, gan gynnwys Teyrnas Unedig Prydain Fawr a’r Iwerddon, Awstralia, Canada, India, Malta, Rhodesia, Y Tir Newydd, Yr Hebrides Newydd, Seland Newydd a De Affrica

Tsieina

Costa Rica

Llengoedd Tsiecoslofacia

Ffrainc

Gwlad Groeg

Guatemala

Haiti

Honduras

Yr Eidal

Japan

Liberia

Montenegro

Nepal

Nicaragua

Panama

Portiwgal

Romania

Rwsia

San Marino

Serbia

Siam

Yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Alasga, Hawäi, Y Philippines a Puerto Rico

 

Y Lluoedd Canolog

 

Yr Ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd gan gynnwys Awstria, Bosnia a Herzegovina, Croatia, Y Weriniaeth Tsiec, Hwngari, rhannau o ogledd-ddwyrain yr Eidal, gogledd Serbia, rhannau o wlad Pwyl, Slofacia, Slofenia a’r Wcráin

Azerbaijan a rhannau o Armenia

Bwlgaria gan gynnwys rhannau o Wlad Groeg a Macedonia

Gwladwriaeth Derfis (rhannau o Somalia)

Ymerodraeth yr Almaen gan gynnwys yr Almaen, Burundi, Cameroon, rhannau o Tsieina, rhannau o’r Gabon, Ghana, Ynysoedd Marshall, Gwladwriaethau Ffederal Micronesia, Namibia, gogledd-ddwyrain Nigeria, Palau, gogledd Papua New Guinea, Weriniaeth y Congo, Rwanda, Samoa, tir mawr Tanzania a Togo

Jabal Shammar gan gynnwys y rhan fwyaf o Saudi Arabia a rhannau o Iraq a Jordan

Yr Ymerodraeth Otoman gan gynnwys Israel, Lebanon, rhannau o Iraq a Jordan, Saudi Arabia, Syria a’r rhan fwyaf o Dwrci.

Ymerodraethau mawr y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Rwsia oedd Lluoedd y Cynghreiriaid, ac yn ystod pedair blynedd y rhyfel daeth dros 30 o wledydd eraill i ymuno â nhw, yn amrywio o Andorra i Japan ac, yn hollbwysig, yr Unol Daleithiau.

Yn erbyn y Cynghreiriaid roedd yr ymerodraethau Awstro-Hwngaraidd, Yr Almaen a’r Twrci (Yr Ymerodraeth Otoman). Roedd nifer o wledydd eraill yn eu cefnogi nhw hefyd. Roedd llawer mwy o filwyr, morwyr ac awyrenwyr gan y Cynghreiriaid na’r gelyn. Roedd Prydain yn ddibynnol iawn ar fyddinoedd yr hyn a elwir heddiw yn y Gymanwlad.

Roedd gwledydd holl gyfandiroedd poblog y byd yn rhan o’r rhyfel.

Er hynny, roedd rhai o wledydd Ewropeaidd yn aros yn niwtral yn swyddogol - yr enw technegol arnynt oedd anymladdwyr. Yn eu plith roedd yr Iseldiroedd a holl wledydd Sgandinafia.

Er gwaethaf hynny, nid oedd rhyfel erioed wedi cynnwys cymaint o wledydd, nac wedi arwain at gymaint o farwolaethau.

Crynodeb O Hanes Y Rhyfel

Ers cychwyn y rhyfel, ysgrifennwyd llawer o erthyglau am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ychwanegir at y casgliad bron yn ddyddiol. Mae cofnodion swyddogol helaeth iawn hefyd ar gael bellach ar-lein, ynghyd â llu o adroddiadau cyfoes gan newyddiadurwyr ac arbenigwyr, miloedd o lyfrau ac erthyglau gan lenorion enwog neu gyn-ymladdwyr, a chasgliad amrywiol o ddogfennau ac effemera sydd ar gael mewn llyfrgelloedd ac archifau ar lefel genedlaethol a lleol.

Yn ogystal, mae nifer fawr o raglenni radio a theledu wedi cael, ac yn cael eu darlledu, ac mae llawer o ddramâu a ffilmiau wedi cael eu cynhyrchu fel rhaglenni dogfen neu adloniant.

Mae’n bosib mai hanesion mwyaf ingol y rhyfel ei hun yw gwaith y beirdd a llenorion, sy’n cynnwys awduron Cymreig enwog, llythyrau gan y dynion a’r menywod yn y fyddin, y llynges a’r awyrlu sydd ar gael yn eang iawn, a lluniau nifer fawr o gasgliadau. Maent yn cofnodi profiadau erchyll, yr amddifadedd diffrwyth, y buddugoliaethau o dro i dro, y cyfeillgarwch a pharhad y rhyfel, fyddai wedi dod i ben ym marn llawer o bobl ‘erbyn y Nadolig’.

Ceir hyd i lwyth o wybodaeth, barn a dadansoddiadau o’r rhyfel, sy’n defnyddio ffynonellau amrywiol iawn ar y rhyngrwyd.

Cafodd y rhyfel cyfan ei frwydro nid yn unig yn y ffosydd yn Ffrainc a Gwlad Belg, er taw dyna un o’r agweddau mwyaf erchyll. Yr un mor ofnadwy oedd y brwydro helaeth ar y Ffrynt Dwyreiniol rhwng Rwsia a’r Almaen, ymgyrch anffodus y Cynghreiriaid ym mrwydr Gallipoli yng Nghulfor y Dardanelles a’r ymgyrch yn y Dwyrain Canol. 

Roedd brwydro ar y tir yn ogystal ag y moroedd ac yn yr awyr. A chafodd effaith ar filiynau o sifiliaid - eu hunig gamgymeriad nhw oedd byw yn y lle anghywir.

Bu farw llawer o ymladdwyr oherwydd salwch neu newyn, yn ogystal ag yn sgil arfogaethau, ac mae ffawd llawer o filoedd o filwyr, morwyr ac awyrenwyr dal yn anhysbys.

Ond gallwn fod yn sicr ynghylch cyfraniad uniongyrchol cyntaf Ymerodraeth Prydain - pan laniodd milwyr Prydeinig yn Ffrainc ar 7fed Awst I helpu byddin Ffrainc i ddal lluoedd yr Almaen wrth iddynt symud trwy Wlad Belg. Daeth i ben trwy arwyddo Cadoediad Compiègne (yn Ffrainc) a ddaeth i rym am 11am ar 11eg Tachwedd 1918.

Derbyniodd yr Almaen iddo golli i Luoedd y Cynghreiriaid, oedd wedi elwa’n fawr o gefnogaeth yr Unol Daleithiau o 1917 ymlaen. Dyma’r dyddiad a’r amser sy’n gyfarwydd i bawb fel yr adeg i gofio’r Rhyfel bob blwyddyn ym mis Tachwedd, ar lefel leol a chenedlaethol, ger cofebion rhyfel.

Mae digwyddiadau’r pedair blynedd a thri mis wedi cael eu cofnodi - i raddau amrywiol o ran manylder, mewn nifer fawr o fformatau argraffedig, graffig a digidol. Hefyd mae’n destun cofnodi anffurfiol mewn miloedd o ddyddiaduron a llythyrau at deuluoedd milwyr a luniwyd yn ystod cyfnodau tawel yn y brwydro.

Er hynny, i bob cymuned unigol, yr agwedd bwysicaf ar hanes y rhyfel, yw’r hyn sy’n berthnasol i’w cymuned nhw. Yng nghyd-destun y prosiect hwn, mae’n golygu fod hanes yn cynnwys atgofion dynion Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog fu’n brwydro dros eu gwlad, a methodd rhai ohonynt â dychwelyd adref.

Effaith Y Rhyfel Ar Gymunedau A'r Bobl Oedd Ar Ol

 

Roedd effaith hirdymor y rhyfel yn amlwg ar bob lefel o gymdeithas. Bu unigolion oedd wedi brwydo yn y rhyfel ac a ddaeth adref, yn byw gydag atgofion, oedd yn erchyll yn aml iawn, am weddill eu bywydau. Roedd llawer yn dioddef o drawma difrifol (siel syfrdandod) fyddai’n cael ei adnabod heddiw fel Anhwylder Straen wedi Trawma, ond yr adeg hynny, roedd yn cael ei ystyried fel arwydd o lwfrdra. Cafodd llawer o achosion o drais a cham-drin domestig eu cofnodi mewn cymunedau yn sgil y rhyfel - gellir priodoli hyn i’r trawma a ddioddefwyd.

Roedd llawer o’r milwyr oedd yn dychwelyd adref yn dioddef o anafiadau ac anffurfiadau eithriadol oedd yn effeithio’n ddifrifol arnyn nhw a’u teuluoedd. Roedd y milwyr a ddioddefodd ymosodiadau nwy yn y ffosydd hefyd yn dioddef o ddallineb ac anafiadau i’r ysgyfaint. Yn aml iawn, byddai’n rhaid iddyn nhw gadw draw o leoedd cyhoeddus rhag ofn y bydden nhw’n achosi gofid i bobl, ac roeddynt yn cael trafferth fawr i gael swyddi ac ennill cyflog i gynnal eu teuluoedd.

Roedd cerbydau’r cyfnod dal yn eithaf sylfaenol, a byddai’r injan yn aml iawn yn ffrwtio a pheswch - enw cyffredin ar hyn oedd "tanio nôl". Pan fyddai hyn yn digwydd ar stryd brysur ar ôl y Rhyfel Mawr, peth cyffredin oedd gweld dynion yn lluchio eu hunain i’r llawr. Roedd eu pennau’n dal i gynnwys y reddf i oroesi a ddysgwyd yn ystod y rhyfel, ac am eiliad, mae’n debyg eu bod nhw’n meddwl bod rhywun yn tanio atynt! Byddai llawer o ddynion yn y sefyllfa hon yn sefyll, yn brwsio eu dillad ac yn mynd o gwmpas eu busnes fel petai dim byd wedi digwydd.

Daeth llawer o ddynion adref, ond roeddynt yn cael trafferth addasu i fywyd fel sifiliad a gyda’r teulu. Roedd rhai wedi methu pedair blynedd o weld eu plant yn tyfu ac yn datblygu ac roedd y plentyn a’r rhiant yn ddiarth i’w gilydd. Roedd llawer iawn o ddynion yn galed iawn ar ôl treulio cyfnod mewn bywyd mor ffyrnig.

Roedd menywod hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y rhyfel. Cawsant eu recriwtio fel Merched y Tir, ac i weithio yn y coedwigoedd yn lle dynion oedd wedi ymuno â’r rhyfel, a bu llawer hefyd yn gweithio mewn diwydiannau. Arweiniodd hyn at effaith barhaol ar rôl merched o fewn cymdeithas. Cyn hynny, roedd merched wedi gweithio fel gweision domestig, mewn siopau a melinau, ac ar y tir yn bennaf. Ond roedd y rhyfel yn cynnig amrediad ehangach o swyddi i ferched, oedd yn golygu cyflog gwell ac amodau gwaith gwell. Roedd merched yn gallu ennill £3 yr wythnos mewn ffatri arfau, o’i gymharu â 8-10 swllt fel morwyn er enghraifft.

Roedd y rhyfel hefyd wedi gorfodi’r undebau llafur i dderbyn merched fel aelodau, ac i roi’r un gefnogaeth iddyn nhw gan eu bod yn brif weithiwr y teulu. Ac roedd merched yn gallu cymdeithasu mwy. Roedd yn dderbyniol i ferched fynd i dafarndai wrth eu hunain ac i wisgo trowsus, yn debyg i’r dyngarîs bydden nhw’n gwisgo i’r gwaith.

Roedd merched hefyd yn darparu gwasanaeth hanfodol sef anfon llythyrau a sigarennau at y milwyr ac ati ‘i greu cysur’. Roedd eu hymdrechion yn hyn o beth yn cael effaith enfawr ar hwyliau’r dynion yn y rhyfel.

Cymru A Phowys Yn Y Rhyfel Byd Cyntaf

Ym 1914, er ei bod yn amlwg ar y map fod Cymru’n wlad ‘ar wahân’, roedd ei phroffil yn wahanol iawn i’w statws a’i sefyllfa heddiw. Yr adeg hynny, i bob pwrpas, roedd yn rhan o Loegr, ac wedi bod ers 500 mlynedd bron. Cyfeiriwyd ati’n swyddogol fel ‘Cymru a Sir Fynwy’ a doedd dim anogaeth i siarad Cymraeg. Er hynny, roedd naws ‘Cymreig’ yn perthyn i fwyafrif ei phobl, ac roedd hyn yn amlwg yn berthnasol iawn, mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.

Roedd gallu ac ymrwymiad y dynion a’r menywod oedd yn gweithio mewn diwydiannau trwm yng Nghymru wedi cyfrannu’n sylweddol at economi a grym Prydain, a’r ymerodraeth gyfan. Trwy barhau i gynhyrchu ar lefel uchel, roedd yn rhan hanfodol o ymdrech y rhyfel, ac yn sicrhau fod dur ar gael ar gyfer y diwydiant arfau, a glo ar gyfer y llongau. Felly hefyd, gwaith y rhai oedd yn gweithio ar y tir i gynhyrchu bwyd i gynnal y boblogaeth, ac yn y melinau a’r ffatrïoedd cynhyrchu arfau.

Pan gyhoeddwyd fod Prydain yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen a’i chynghreiriaid, roedd dynion ifainc o Gymru’n rhan o broses ‘blodeuo gwroldeb Prydeinig’ oedd yn lansio eu hunain i frwydr hollol ddiarth iddynt, gyda chanlyniadau annychmygol.

Er bod y glöwyr, a’r gweithwyr dur, ac i raddau'r gweithwyr fferm, mewn swyddi ‘neilltuedig’, oedd yn golygu taw’r ffordd orau iddyn nhw gyfrannu at y rhyfel oedd trwy aros yn eu swyddi, dewisodd llawer i gofrestru ar gyfer gwasanaeth milwrol tramor.

Yn ystod y pedair blynedd a barodd y rhyfel, cafodd 272,924 o ddynion a menywod eu recriwtio o Gymru, o siroedd poblog Morgannwg a Mynwy yn bennaf. 

Gwirfoddolwyr a gafwyd i gychwyn; fodd bynnag, erbyn 1916, roeddynt yn cael eu gorfodi yn debyg i ymladdwyr o Loegr, yr Alban ac Iwerddon; erbyn hyn roedd yr holl wledydd hyn yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Roedd dynion a menywod o’r ymerodraeth - o Ganada, Awstralia a Seland Newydd, India a De Affrica - yn ymuno hefyd.

Dengys cyfrifiad 1911 fod poblogaeth Cymru ychydig dan 2.5 miliwn, rhyw 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig - fel y mae o hyd. Ond aeth cyfanswm o dros 10% o boblogaeth Cymru i’r rhyfel. Roedd canran y boblogaeth wrywaidd dros un o bob pump. Yn Llyfr Cofio Cymru, rhestrir fod rhyw 35,000 wedi marw neu ar goll, sy’n cyfateb i un o bob wyth o’r trigolion o Gymru, a bron 1.5% o’r holl boblogaeth. Er taw dynion oedd y mwyafrif, bu menywod hefyd yn chwarae rhannau hollbwysig, megis nyrsio neu’n gyrru ambiwlansys.

Roedd effaith y rhyfel ar y gymuned yn enfawr; nid yn unig colli cymaint o ddynion ifainc, ond cafodd effaith fawr ar deuluoedd a ffrindiau yn eu profedigaeth a bu newidiadau enfawr i strwythur a swyddogaethau cymdeithas. Roedd penblethau moesol a chymdeithasol enfawr yn eu hwynebu.

Bellach, roedd dynion o deuluoedd crefyddol a ddysgodd yn yr Ysgol Sul ‘Paid â lladd’ yn clywed taw ‘Gwaith Duw’ oedd lladd ‘y Jeri’. Fodd bynnag, gwaharddwyd defnyddio’r Gymraeg, oherwydd taw iaith ‘estron’ oedd. Nid oedd y milwyr yn cael siarad yn Gymraeg na ysgrifennu at eu teuluoedd na derbyn llythyrau gan berthnasau a ffrindiau yn eu mamiaith.

Hyd at fis Awst 2014, Cymru oedd yr unig un o’r gwledydd cartref heb gofeb rhyfel yn Fflandrys er gwaethaf colli miloedd o ddynion ifainc yno yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd awdurdodau gwlad Belg yn cefnogi’r ymdrech i sefydlu cofeb Gymreig yno, a rhoddwyd safle ym mhentref bach Langemark gan y wlad honno ar y safle lle digwyddodd Brwydr Passchendaele ym mis Gorffennaf 1917. Mae cerflun trawiadol o’r Ddraig Goch, gwaith yr artist Lee Odishow, bellach yn sefyll ar gromlech er cof am y Cymry a gollwyd.

Dynion Powys

Ar ddechrau’r rhyfel, roedd poblogaeth Powys yn debyg i heddiw, rhyw 135,000. Mae hyn yn cyfateb i ychydig dros 5% o boblogaeth Cymru - felly mae’n debyg, yn ôl ystadegau cenedlaethol - i ryw 15,000 o ddynion ymuno â’r lluoedd arfog o siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Brycheiniog, oedd yn siroedd ar wahân ar y pryd. Os oedd canran y rhai a fu farw’n adlewyrchu’r ffigurau cenedlaethol, yna mae’n debyg y byddai’r nifer a fu farw ac a gollwyd o dair sir Powys yn llai na 2,000 - er hynny, mae’n nifer fawr o un o siroedd lleiaf ei phoblogaeth trwy Gymru.

Bu dynion o Bowys yn gwasanaethu mewn corffluoedd, brigadau, adrannau, catrodau a bataliynau amrywiol Byddin Prydain, yn y Llynges Frenhinol a’r Morlu Brenhinol, ac yng Nghorfflu’r Awyrlu Brenhinol (y Llu Awyr Brenhinol yn ddiweddarach). Roedd rhai’n aelodau o nifer o gatrodau Cymreig megis Cyffinwyr De Cymru, Y Gatrawd Gymreig a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig*.

* Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr enwau ar y Gatrawd Gymreig a Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd y Gatrawd Gymreig a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Newidiwyd yr enwau ym 1920.

Bu bataliynau Cyffinwyr De Cymru’n gwasanaethu yn holl brif feysydd y rhyfel, gan gynnwys y Somme, Gallipoli, Palestina a’r holl frwydrau mawr ar Ffrynt y Gorllewin. Roedd mwy o fataliynau o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig nag unrhyw gatrawd arall yn rhan o’r Rhyfel Mawr.

Cafodd eraill eu recriwtio i fataliynau a gychwynwyd yn lleol, megis Bataliwn 2/7fed Meirionydd a Sir Drefaldwyn a sefydlwyd yn y Drenewydd ym mis Medi 1914, a 25ain Bataliwn Trefaldwyn ac Iwmyn Ceffylau Cymru a sefydlwyd yn yr Aifft ym 1917 o Iwmyn Trefaldwyn a Marchoglu Ceffylau Cymreig. Ond oherwydd tirwedd wledig Powys, aeth llawer o farchogion profiadol i’r Marchoglu Tiriogaethol. Rydym yn gwybod mai ychydig o Swyddogion Cymreig oedd yn bodoli, sydd efallai’n awgrymu’r agweddau oedd yn bodoli ymhlith yr awdurdodau milwrol ar y pryd.