Prosiect Cofebion Rhyfel Powys
2014-18: Arwydd o Barch
Llwyddodd Cyngor Sir Powys i ddenu cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer Prosiect Cofebion Rhyfel Powys 2014-18: Arwydd o Barch.
Mae’r prosiect yn coffáu can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
http://cadw.gov.wales/?lang=en
Mae nifer o elfennau i Brosiect Cofebion Rhyfel Powys, gan gynnwys:
· Adnabod, cofnodi a mapio’r holl gofebion rhyfel ym Mhowys.
· Annog a galluogi cymunedau lleol i wneud gwaith ymchwil ar y dynion a’r menywod a enwir ar y cofebion.
· Cefnogi cymunedau lleol i wneud cais am gyllid prosiect i allu cynnal rhaglen o waith atgyweirio ac adnewyddu ar gofebion rhyfel, a’r ardal o’u cwmpas.
· Datblygu cyfres o deithiau cerdded, gan gynnwys apiau ar gyfer dyfeisiau symudol, i alluogi pobl i ddarganfod cofebion rhyfel ym Mhowys.
· Cyfrannu at brosiectau, digwyddiadau a mentrau eraill i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.


