Teithiau Cerdded A Llwybrau Ar Thema Cofebion Rhyfel
Un o nodau Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yw datblygu teithiau cerdded a llwybrau sy’n galluogi pobl i archwilio cofebion rhyfel, yn ogystal â lleoliadau cysylltiedig sydd o ddiddordeb hanesyddol, diwylliannol neu gymdeithasol. Bydd y teithiau cerdded a’r llwybrau ar gael i’w lawrlwytho o’r wefan hon. Hefyd, bydd y teithiau a’r llwybrau ar gael fel ‘apiau’ ar gyfer dyfeisiau symudol.
Mae Prosiect Cofebion Rhyfel Powys yn chwilio am bobl i helpu datblygu neu greu teithiau cerdded neu lwybrau ar thema cofebion rhyfel, gan gynnwys apiau. Gellir helpu yn hyn o beth mewn nifer o ffyrdd:
1. Gellir defnyddio’r Ffurflen Cofnodi i gofnodi gwybodaeth safonol am y gofeb ei hun, e.e. lleoliad, deunydd ac arysgrifau. Nid oes angen arbenigedd technegol i lenwi’r Ffurflen Cofnodi. Byddai unrhyw wybodaeth a ddarperir o gymorth mawr inni.
2. Mae’n bwysig, yn enwedig o ran yr ap, bod lluniau o’r gofeb ar gael. Byddai’n hynod ddefnyddiol cael detholiad o luniau, gan gynnwys lluniau o’r gofeb o onglau gwahanol a lluniau agos o’r arysgrifau. Byddai’n ddefnyddiol dros ben cael lluniau yn edrych o’r gofeb i gyfeiriadau gwahanol. Bydd y rhain o ddefnydd i gyfeirio pobl o’r gofeb at y man diddordeb nesaf ar hyd y daith.
Felly hefyd, efallai yr hoffech wneud fideo byr o’r gofeb (a’r ardal gyfagos) ar gyfer y daith.
Nid yw’n bosib cynnwys lluniau na fideo sydd â phobl ynddynt yn y daflen na’r ap.
3. Byddai’n hynod ddefnyddiol nodi gwybodaeth am y dynion a’r menywod a enwir ar y gofeb. Bydd hyn yn golygu fod y gofeb yn fwy ‘byw’ ac â chysylltiad ‘dynol’. Byddai’n wych cael yr wybodaeth ganlynol er enghraifft, ar gyfer pob unigolyn a enwir ar y gofeb:
Teitl, enw gyntaf a’r cyfenw, ac unrhyw enwau eraill a ddefnyddiwyd ganddynt.
Aelodau’r teulu agos.
Rheng, catrawd, lle buon nhw’n gwasanaethu/brwydro.
Medalau a enillwyd.
Man geni, ac oedran a’r lle y bu farw.
Safle’r fynwent.
Unrhyw wybodaeth berthnasol neu ddefnyddiol arall, e.e. lle'r oedd yn gweithio, neu aelodaeth o fand.
4. Yn ogystal â’r wybodaeth safonol yn 1,2, a 3 uchod, byddai’n ddefnyddiol iawn cael manylion ychwanegol am y dynion a’r menywod a enwir ar y gofeb. Gall hyn amrywio, a bod yn ffeithiau diddorol, defnyddiol neu berthnasol e.e. yr ysgolion lle bu’r dynion a’r menywod yn ddisgyblion.
Mae dau hanesydd lleol eisoes wedi llunio Llwybr ar y Rhyfel Byd Cyntaf yn ardal Llanidloes. Gweler isod dolen uniongyrchol at wefan allanol sydd â mwy o wybodaeth am yr ap:
Llwybr Rhyfel Mawr Llanidloes
https://play.google.com/store/apps/details?id=uk.co.geosho.rougeoreader.llaniltd&hl=en_GB
Gofynnir i chi gysylltu â Swyddog Prosiect Cofebion Rhyfel Powys os hoffech helpu datblygu taith gerdded neu lwybr coffa.